 
		Swyddog Cefnogi Lles a Chymorth Cyntaf
Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Swyddog Cefnogi Lles a Chymorth Cyntaf i weithio yn ystod absenoldeb mamolaeth. Mae hon yn swydd 37 awr yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig (38 wythnos y flwyddyn), i ddechrau cyn gynted a phosibl.
Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth neu cysylltwch â Miss Rhian Owen [email protected]. Am sgwrs anffurfiol a’r Pennaeth, Mr Iwan Owen-Ellis,
ffoniwch 01978 315050.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwewch yn dda a’i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn hanner dydd ar yr 14eg o Tachwedd, 2025.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
 
				
		





