Swyddog Presenoldeb
Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Syddog Presenoldeb i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.
O dan arweiniad y Pennaeth Cynorthwyol, rôl y swydd yw bod yn gyfrifol am ymgymryd â phrosesau gweinyddol, sefydliadol a bugeiliol sy’n ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn effeithiol. Paratoi adroddiadau presenoldeb i staff a llywodraethwyr. Am ragor o wybodaeth gweler y Swydd Ddisgrifiad.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen Rheolwr Busnes [email protected].
I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i ddychwleyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes, drwy e-bost [email protected] erbyn hanner dydd ar y 5ed o Rhagfyr 2025.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)






